Gai’n mynd nôl i Gwmorthin

Mae Gai Toms wedi cyhoeddi ei fod yn rhyddhau sengl newydd ddydd Llun nesaf, o’r enw Cefn Trwsgl.

Bydd modd lawr lwytho’r sengl o ddydd Llun, a’r arian i gyd i fynd at Apêl Cwmorthin.

Bydd nifer o ddarllenwyr dysgedig Y Selar yn ymwybodol o gân wych ‘Cwmorthin’ oedd ar yr albwm Straeon Y Cymdogion a ryddhawyd yn 2005. Mae’n amlwg fod y lle hwnnw’n agos iawn at galon Gai, ac mae’r apêl yn ceisio achub adfeilion yr hen dai sydd yn y pentref chwarel.

Mae modd darllen mwy am y sengl yn yr erthygl yma ar Golwg360.