Wel, mae Gwobrau’r Selar yn Neuadd Hendre fis Mawrth yn teimlo fel ddoe – yn doedd hi’n noson wych!
Er hynny, mae’r gwaith o baratoi ar gyfer Noson Wobrau’r Selar ar gyfer gwobrau elenu ar y gweill yn barod ac rydan ni’n croesawu awgrymiadau am leoliadau addas.
Rydan ni’n weddol hyblyg ar hyn o bryd, ond yn ddelfrydol dyma rai meini prawf rydan ni’n chwilio amdanyn nhw
– lleoliad hyblyg, sy’n dal 300 + o bobl
– angen bod o fewn cyrraedd i gaeau pêl-droed 5-bob-ochr (astroturf neu debyg) ar gyfer Cwpan Jarman
– rhywle sy’n debygol o fod yn rhydd i’w ddefnyddio ar nos Sadwrn yn niwedd Chwefror / dechrau Mawrth
Os oes ganddoch chi unrhyw awgrymiadau yna rhowch wybod trwy yrru ebost i ni ar yselar@hotmail.com neu yrru neges twitter @y_selar
#gwobraurselar