Llawn dop yng ngwobrau’r Selar

Y Bandana oedd yr enillwyr mawr yn Noson Wobrau’r Selar yn Neuadd Hendre neithiwr.

Cipiodd y grŵp o Wynedd dair gwobr mewn noson gofiadwy i ddathlu llwyddiant y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.

Y nhw oedd yn cloi’r gig yn Neuadd Hendre, ac efallai fod hynny’n addas iawn ar ôl iddynt gipio un o brif wobrau’r noson sef ‘Band Byw Gorau’.

Mae tlysau Cân Orau am ‘Heno yn yr Anglesey’ a Record Fer Orau am y sengl ‘Heno yn yr Anglesey / Geiban’ hefyd yn eistedd ar silff ben tân aelodau’r grŵp heddiw.

Un arall o berfformwyr y noson, Cowbois Rhos Botwnnog, gipiodd y wobr am record hir y flwyddyn am eu halbwm Draw Dros y Mynydd a ryddhawyd ym mis Gorffennaf.

Y grŵp addawol iawn o Gaerfyrddin, Y Bromas, gafodd ei henwi’n Fand Newydd Gorau’r flwyddyn.

Gwobrau diwydiant

Nid dim ond yr artistiaid oedd yn cael eu gwobrwyo wrth i’r Selar ddangos gwerthfawrogiad i nifer o bobl sy’n gwneud cyfraniad allweddol i’r diwydiant .

Cyflwynydd Radio Cymru a nifer o raglenni S4C, Lisa Gwilym oedd y Cyflwynydd Gorau; cafodd trefnwyr gigs Nyth yng Nghaerdydd eu henwi’n hyrwyddwyr gorau; a gadawodd trefnwyr gŵyl ddathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith ‘Hanner Cant’ gyda thlws y Digwyddiad Byw gorau.

Mae rhestr lawn enillwyr Gwobrau’r Selar i’w weld yn y rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn sydd allan rŵan (fersiwn electronig fan hyn).