Mellt yn taranu Roc Aber

Y grŵp ifanc o Ysgol Penweddig, Mellt, gipiodd deitl ‘RocAber’ nos Wener (26 Ebrill) wrth i’r gystadleuaeth gerddorol gael ei chynnal am y tro cyntaf erioed yng Nghanolfan Arad Goch yn Aberystwyth.

Y gystadleuaeth i grwpiau cyfoes oedd gwerthgaredd gyntaf Eisteddfod Calan Mai Aberystwyth, sef ymdrech i ail-ffurfio eisteddfod yn y dref lan môr – mae’r eisteddfod ei hun yn digwydd nos Fercher yma, 1 Mai.

Roedd 4 grŵp neu artist yn cystadlu yn RocAber sef Gweriniaeth a Mellt o Aberystwyth, Averis o Aberaeron a’r gantores amlwg o Gaerdydd, Catrin Herbert.

Cafwyd set chwarter awr gan bob un, a plesiwyd y beirniaid Dylan Hughes (gynt o Radio Lux / Race Horses) ac Owain Schiavone (Uwch Olygydd Y Selar) yn fawr gan y safon.

Roedd rhaid dewis un enillydd a Mellt aeth a hi gan adael £200 yn gyfoethocach diolch i rodd gan y Llew Du yn Aberystwyth. Cipiodd y grŵp trwm Averis yr ail wobr o £100, gyda Gweriniaeth a Catrin Herbert yn rhannu £100 arall.