Wel, mae’r aros ar ben ac mae pleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar bellach ar agor!
Fel y gwyddoch, mae panel o 10 wedi llunio rhestrau hir ar gyfer y bleidlais gyhoeddus eleni ac mae modd i chi ddewis un ym mhob categori ar dudalen Facebook Y Selar.
Os nad ydach chi ar Facebook, yna peidiwch poeni dim. Mae modd i chi fwrw eich pleidlais trwy yrru eich dewisiadau, un o bob categori, atom – yselar@live.co.uk. Mae’r rhestrau hir i’w gweld yma.
Cofiwch, dim ond unwaith fydd modd i chi bleidleisio felly dewiswch yn ofalus!