Record gyntaf Kizzy

Mae un o artistiaid ifanc mwyaf addawol Cymru, Kizzy Crawford wedi ryddhau ei EP cyntaf heddiw.

Os nad ydy Kizzy’n gyfarwydd i chi erbyn hyn, yna mae’n rhaid eich bod chi wedi bod yn byw mewn ogof ers rhyw flwyddyn gan fod Kizzy wedi creu argraff mawr dros y naw i ddeng mis diwethaf.

Mi ddaeth Y Selar ar ei thraws hi rhyw flwyddyn yn ôl, ac fe gafodd sylw ‘Ti di clywed…’ yn rhifyn mis Ebrill 2013 o’r cylchgrawn.

Rydan ni’n falch iawn o’i llwyddiant, ac wrth ein bodd i weld ei chynnyrch yn cael ei ryddhau’n ffurfiol am y tro cyntaf ar label See Monkey Do Monkey.

Mae’r EP chwe chân, Temporary Zone, ar gael i’w glywed a’i brynu o wefan y label rŵan.