Record Las yn feiral?

Yn rhifyn diweddaraf Y Selar mae Casia Wiliam y cyfweld â chriw Recordiau Lliwgar ynglŷn â’r nesaf yn eu casgliad o recordiau aml-gyfrannog, sef y Record Las.

Datgelwyd bod y Record Las i cynnwys traciau gan Llwybr Llaethog, H. Hawkline, Ymarfer Corff ac Ifan Dafydd.

Fydd y record ddim allan tan mis Mawrth rhywdro yn ôl y criw, ond yn y cyfamser maen nhw wedi cyhoeddi un o draciau Ifan Dafydd fel tamaid i aros pryd.

Rhoddwyd ‘Celwydd’ ar Soundcloud bnawn Mercher, 16 Ionawr, ac erbyn bore ma (Sadwrn 19 Ionawr) mae dros 17,500 o bobl wedi gwrando ar y gân.

Mae’r nifer yn syfrdanol i gân Gymraeg mewn amser mor fyr. I chi allu cymharu, mae cân Gymraeg fwyaf poblogaidd Cowbois Rhos Botwnnog ar Soundcloud, Cyn Iddi Fynd Rhy Hwyr, wedi cael 1,444 gwrandawiad hyd yn hyn, a hithau yno ers blwyddyn.

Os nad ydach chi wedi clywed y gân eto, dyma’ch cyfle:

Mae modd rhag archebu Y Record Las o wefan Recordiau Lliwgar rŵan.