Bydd rhai ohonoch yn cofio’r enw R. Seiliog o rifyn mis Ebrill o’r Selar.
EP cyntaf prosiect electroneg Robin Edwards, Shuffles, oedd testun eitem O Glawr i Glawr yn y rhifyn hwnnw.
Wel, rydan ni’n falch iawn i glywed fod R. Seiliog wedi bod yn cadw’n brysur dros y misoedd diwethaf, ac mae heddiw’n gweld rhyddhau ei gryno albwm newydd, Doppler.
Mae’r record newydd allan ar label Turnstile ac roedd R. Seiliog yn perfformio yn siop Spillers, Caerdydd heno i nodi’r achlysur.
Mae ein ffrindiau yn adran Roc a Phop Golwg360 wedi bod yn sgwrsio â Robin am y record newydd heddiw, a gallwch ddarllen mwy yma.
Gwrandewch ar draciau’r record isod