Rhestrau Byr Band Newydd a Gwaith Celf

Cafodd rhestrau byr categoriau ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ a ‘Gwaith Celf Gorau’ eu cyhoeddi’n egsgliwsig ar raglen Y Lle ar S4C heno.

Roedd yn flwyddyn addawol iawn arall o ran artistiaid newydd a ddaeth i amlygrwydd, ac mae tri grŵp gwych yn ffurfio rhestr y categori hwnnw sef Plu, Y Bromas a Nebula.

Wrth i fwy a mwy o bobl brynu cerddoriaeth yn ddigidol, mae llawer mwy o bwyslais ar greu recordiau a CDs sy’n edrych yn dda. Mae hynny’n egluro pam fod brwydr agos am deitl ‘Gwaith Celf Gorau’ Gwobrau’r Selar. Yn ffurfio’r rhestr fer eleni mae albwm ddwbl Clinigol, Discopolis; albwm diweddaraf Cowbois Rhos Botwnnog, Draw Dros y Mynydd, ac yn eironig, sengl ddigidol Sŵnami, Eira.

Pob lwc i bawb sydd ar y rhestrau byr yn y categori yma. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar Noson Wobrau’r Selar yn Neuadd Hendre ger Bangor ar nos Sadwrn 2 Mawrth – mwy o fanlyion yma.