Rhestrau byr Cyflwynydd a Record Fer

Cyhoeddwyd rhestrau byr dau o gategoriau Gwobrau’r Selar ar raglen Y Lle ar S4C neithiwr.

Cyhoeddwyd mai Huw Evans, Lisa Gwilym a Huw Stephens sydd wedi cyrraedd rhestr fer categori ‘Cyflwynydd Gorau 2012’. Lisa Gwilym gipiodd y teitl llynedd, tra bod Huw Stephens wedi dod i’r brig yn 2010.

Y categori arall gafodd ei ddatgelu neithiwr oedd ‘Record Fer Orau’. Heno yn yr Anglesey / Geiban – Y Bandana; Sara / Nofa Scosia – Sen Segur; a Mynd a Dod – Sŵnami ydy’r tri record sy’n brwydro am y teitl eleni.

Bydd rhestrau byr dau gategori arall yn cael eu cyhoeddi’n egsgliwsif ar Y Lle, am 10:00 nos Iau nesaf ar S4C.

Cofiwch bod Noson Wobrau’r Selar yn cael ei gynnal ar nos Sadwrn 2 Mawrth – rhannwch y digwyddiad Facebook efo’ch ffrindiau.