Rhag ofn i chi fethu rhaglen Y Lle ar S4C neithiwr, fe gyhoeddwyr rhestrau byr dau arall o gategoriau Gwobrau’r Selar eleni.
Rhestr fer categori ‘Cyflwynydd Gorau’ oedd y cyntaf i’w enwi gyda Chymdeithas yr Iaith, criw Nyth a Guto Brychan yn cyrraedd y rhestr fer o 3.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cael blwyddyn brysur o drefnu gyda gigs yr Eisteddfod Genedlaethol wrth gwrs ond hefyd taith 50 a gig mawreddog 50 ym Mhontrhydfendigaid.
Mae Guto’n un o hyrwyddwyr mwyaf profiadol y sin, yn gyfrifol am arlwy Gymraeg gigs Clwb Ifor Bach a gigs Maes-B yn yr Eisteddfod.
Criw Nyth ydy’r hyrwyddwyr mwy diweddar i gyrraedd y rhestr fer, ond maen nhw wedi cael blwyddyn ragorol o drefnu gyda gigs yn y brifddinas, llwyfannau mewn gwyliau amrywiol a thaith gyntaf Nyth yn yr hydref.
Cyhoeddwyd hefyd rhestr fer categori ‘Band Byw Gorau’ gyda Canedlas, Y Bandana a Cowbois Rhos Botwnnog yn cyrraedd y brig. Bydd enillwyr y categori yma’n derbyn £1000 yn ogystal â thlws fel gwobr diolch i bartneriaeth newydd rhwng Y Selar a Chân i Gymru.
Cofiwch ddod i Noson Wobrau’r Selar yn Neuadd Hendre ger Bangor ar nos Sadwrn 2 Mawrth – manylion llawn fan hyn