Rhestrau Byr llawn Gwobrau

Mae rhestrau byr holl gategoriau Gwobrau’r Selar bellach wedi’i cyhoeddi.

Fe gyhoeddwyd y ddwy restr olaf yn ecsgliwsif ar raglen Y Lle ar S4C heno.

Datgelwyd mai Cowbois Rhos Botwnnog, Y Bandana a Candelas ydy’r grŵp sydd ar restr fer categori ‘Band Byw Gorau’ y gwobrau.

Cyhoeddwyd rhestr fer categori ‘Cân Orau’ hefyd, gyda ‘ Heno yn yr Anglesey ’ gan y Bandana yn ymuno â dwy o ganeuon Sŵnami, sef ‘Mynd a Dod’ ac ‘Eira’ ar y rhestr fer.

Mewn partneriaeth newydd gyda Cân i Gymru, bydd enillwyr y ddau gategori yma’n derbyn £1000 yn wobr yn ogystal â thlws Gwobrau’r Selar.

Mae rhestrau byr wyth categori arall y gwobrau wedi’i datgelu’n wythnosol ar Y Lle dros y mis diwethaf.

Bydd enillwyr yr holl gategoriau’n wrth gwrs yn cael eu datgelu yn Noson Wobrau gyntaf Y Selar yn Neuadd Hendre ger Bangor nos Sadwrn yma.

Rhestrau Byr llawn Gwobrau’r Selar

Digwyddiad Byw Gorau – Noddir gan Y Sefydliag Cerddoriaeth Gymreig

Gŵyl Gwydir

Maes-B

Hanner Cant

Record Hir Orau – Noddir gan Rownd a Rownd

Draw Dros y Mynydd – Cowbois Rhos Botwnnog

Discopolis – Clinigol

Bethel – Gai Toms

Record Fer Orau – Noddir gan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg / Sianel 62

Mynd a Dod – Sŵnami

Sara // Nofa Scosia – Sen Segur

Heno yn yr Anglesey / Geiban – Y Bandana

Cân Orau – Noddir gan Cân i Gymru

Mynd a Dod – Sŵnami

Heno yn yr Anglesey – Y Bandana

Eira – Sŵnami

Clawr Gorau – Noddir gan Y Lolfa

Eira – Sŵnami

Draw Dros y Mynydd – Cowbois Rhos Botwnnog

Discopolis – Clinigol

Band Newydd Gorau – Noddir gan Y Lle

Y Bromas

Nebula

Plu

Artist Unigol Gorau – Rondo

Al Lewis

Gwenno

Gai Toms

Cyflwynydd Gorau – Noddir gan Sain

Huw Evans

Lisa Gwilym

Huw Stephens

Hyrwyddwr Gorau – Noddir gan Y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig

Cymdeithas yr Iaith

Criw Nyth

Guto Brychan

Band Byw Gorau – Noddir gan Cân i Gymru

Cowbois Rhos Botwnnog

Candelas

Y Bandana