Mae’r band Cymreig newydd Tree of Wolves yn mynd ar daith gyda llu o westeion adnabyddus yn eu cefnogi ar y ffordd.
Bydd y daith i hyrwyddo yn agor yn y Cŵps yn Aberystwyth nos fory (Iau 10 Hydref) cyn ymweld â 5 lleoliad arall yng Nghymru a Lloegr.
Yn cefnogi yn y gig cyntaf fydd Mellt, Tymbal ac Alex Dingley.
Ymysg y rhai eraill sy’n cefnogi’r grŵp o ardal Caerfyrddin yn y gigs mae Mr Huw, Cut Ribbons, When Elephants Attack, DJ Llio Non, Houdini Dax, The Lash, Chambles, John Lawrence a Sebon DJ’s.
Recordiwyd sengl gyntaf y grŵp, Icy Water, yn stiwdio Nant y Benglog John Lawrence ac mae ar gael am ddim ar Bandcamp y grŵp!
Dyddiadau’r Daith
10/10/13 – Cŵps, Aberystwyth
11/10/13 – Clwb y Legion, Llanrwst
25/10/13 – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
26/10/13 – Le Pub, Casnewydd
16/11/13 – Dublin Castle, Camden, Llundain
08/12/13 – The Fleece, Bryste