Bydd y rhan fwyaf ohonoch eisoes yn gwybod ein bod wedi lansio Gwobrau’r Selar eleni yn rhifyn newydd Y Selar gan gyhoeddi hefyd bydd y Noson Wobrau’n cael ei chynnal yn Neuadd Fawr Aberystwyth ar 15 Chwefror 2014.
Efallai y byddwch hefyd wedi sylweddoli ein bod yn addasu rhywfaint ar drefn pleidlais Gwobrau’r Selar, ac yn bwriadu llunio rhestr hir ar gyfer pob categori.
Peidiwch poeni, chi ddarllenwyr ffyddlon fydd dal yn gyfrifol am benderfynu ar yr enillwyr. Nod y newid yma ydy ei gwneud yn haws i bleidleisio, a cheisio gwneud yn siŵr fod llai o bleidleisiau’n cael eu gwastraffu dros bethau sydd ddim yn gymwys ac ati.
Panel o 10 fydd yn gyfrifol am ddewis y rhestrau hir – 5 o gyfranwyr rheolaidd Y Selar, a 5 darllenwr. Mae cyfle gwych i chi chwarae rhan allweddol yn y broses a chynnig eich henw i fod yn un o’r panelwyr – y cyfan sydd angen i chi wneud ydy gyrru brawddeg yn egluro pam eich bod eisiau bod ar y panel at gwobrau-selar@outlook.com.
Yr unig amod ydy fod panelwyr yn frwd dros y sin Gymraeg, a ddim yn artist neu aelod o fand allai fod yn gymwys ar gyfer y gwobrau.
Fel ysgogiad pellach, bydd y panelwyr i gyd yn cael tocyn am ddim i’r noson wobrau!
Mae canllawiau llawn Gwobrau’r Selar, a’r rhestr Categoriau fan hyn.