Mae’r gantores Georgia Ruth Williams wedi rhyddhau ei halbwm lawn gyntaf, Week of Pines, heddiw.
Label Gwymon sydd wedi rhyddhau’r albwm sy’n cynnwys 11 o draciau.
Recordiwyd Week of Pines yn stiwdio Bryn Derwen gyda Dave Wrench yn cynhyrchu ym mis Awst llynedd.
Mae’r record eisoes wedi creu argraff ar nifer o gyflwynwyr radio amlycaf y DU gyda Simon Lederman, Steve Lamacq a Huw Stephens yn chwarae traciau ar eu sioeau.
I nodi rhyddhau’r albwm roedd Georgia’n gwneud set arbennig yn siop recordiau Spillers yng Nghaerdydd heno.