Agor pleidlais Gwobrau’r Selar

Mae blwch pleidleisio Gwobrau’r Selar bellach ar agor!

Yn dilyn proses o wahodd enwebiadau ar gyfer yr amryw gategoriau ganddoch chi, ein darllenwyr annwyl, mae Panel Gwobrau’r Selar wedi dewis eu rhestrau hir ac nawr mae’r penderfyniad terfynol yn eich dwylo chi.

Gallwch fwrw eich pleidlais trwy ein app Facebook Gwobrau’r Selar. I’r rhai sydd ddim ar Facebook, gyrrwch eich dewis i ni ar ebost – yselar@live.co.uk

Nawr bod y bleidlais ar agor, rydan ni hefyd wedi rhyddhau tocynnau ar gyfer digwyddiad Gwobrau’r Selar fydd yn cael ei gynnal yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth eleni. Mae modd prynu tocyn ‘cyntaf i’r felin’ am bris arbennig o ddim ond £10 ar hyn o bryd – gostyngiad o £4 ar y pris llawn, sef £14. Maen nhw ar werth ar Sadwrn.com nawr.

Unwaith eto eleni bydd rhai o artistiaid gorau a mwyaf gweithgar y flwyddyn a fu yn perfformio yng Ngwobrau’r Selar, gyda mwy fyth o gerddoriaeth fyw a mwy byth o ddathlu llwyddiant y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes – peidiwch colli’r parti.

Mae cynnig arbennig i drefnwyr bysus unwaith eto eleni – ebostiwch yselar@live.co.uk am fwy o wybodaeth.