Ail sengl Fleur-de-Lys

Os ydach chi wedi darllen rhifyn diweddaraf Y Selar byddwch yn ymwybodol fod Fleur-de-Lys wedi recordio dwy sengl yn ddiweddar.

Rhyddhawyd y gyntaf, ‘Difaru Dim Byd’, gwpl o fisoedd yn ôl a’r newyddion da ydy bod yr ail sengl ar gael i’w lawr lwytho am ddim yn fuan iawn.

Bydd ‘Crafangau’ yn cael ei rhyddhau’n swyddogol ar 20 Mehefin, ond mae modd i chi wrando ar y trac isod.

Fleur-de-Lys ydy band ‘Ti di clywed…’ rhifyn diweddaraf Y Selar, ac mae adolygiad o’r ddwy sengl ar dudalennau adolygiadau’r rhifyn.