Albwm Gwenno allan heddiw

Newyddion da o lawenydd mawr, mae albwm newydd Gwenno – Y Dydd Olaf – wedi’i ryddhau ar label Peski heddiw.

Mae’r record yn un wleidyddol sydd wedi’i ysbrydoli gan y nofel ffuglen wyddonol gan Owain Owain, sy’n rhannu enw’r albwn, a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer ym 1976.

Mae’r albwm ar gael yn ddigidol, ar CD, ac ar feinyl ac mae modd i chi archebu o wefan Peski rŵan.

Bydd Gwenno yn perfformio am y tro cyntaf erioed yn Aberystwyth yn gig O’r Selar ym Mar Canolfan y Celfyddydau ar nos Iau 27 Tachwedd.