Mae albwm newydd Dan Amor, Rainhill Trials, allan heddiw (dydd Llun 20 Ionawr 2014) ar label yr artist ei hun, Recordiau Cae Gwyn.
Hwn ydy pendwerydd albwm y canwr-gyfansoddwr o Ddyffryn Conwy yn dilyn Neigwl (2011), Adlais a ryddhawyd yn 2007 a Dychwelwyd a ryddhawyd ar label Sain nôl yn 2005.
Roedd Dan wedi rhyddhau sengl ‘Y Ci’ fel tamaid i aros pryd nôl ym mis Rhagfyr, a’r gân honno sy’n cloi yr albwm newydd sydd ar gael i’w lawr lwytho am ddim o wefan Bandcamp Dan Amor.