Albyms gorau 10 mlynedd Y Selar

Mae’r Selar am lunio rhestr o’r 10 albwm Cymraeg gorau sydd wedi eu rhyddhau dros y 10 mlynedd mae’r Selar wedi bod yn cael ei gyhoeddi.

Mae hon yn dasg a hanner, felly rydan ni eisiau eich help chi! Pleidleisiwch dros 3 o’r rhestr hir isod. Bydd y 10 sy’n cyrraedd y brig yn cael eu cyhoeddi fel rhan o atodiad 10 mlynedd Y Selar, yn rhifyn nesaf y cylchgrawn sydd allan ar 31 Hydref yn gig Selar 10 Aberystwyth.

Mae’r bleidlais ar agor nes dydd Mawrth 14 Hydref.