Blogiau a gigs Nadoligaidd

Mae Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone (@owainsgiv) wedi bod yn brysur yn ysgrifennu blogiau cerddoriaeth Nadoligaidd eu naws i Golwg360 yr wythnos hon.

Y cyntaf o’r rhain ydy ei ‘10 uchaf caneuon 2014‘, sef ei restr 10 uchaf blynyddol sy’n dewis ei hoff ganeuon o’r flwyddyn â fu.

Mae hefyd heddiw wedi cyhoeddi darn yn crynhoi’r holl gigs Nadoligaidd sydd wedi, ac yn, cael eu cynnal eleni.

Dyma’r prif gigs Cymraeg sydd i ddod rhwng y Nadolig â’r flwyddyn newydd:

Sadwrn 27 Rhagfyr – Neuadd Y Farchnad, Crymych: Mafon a Menter Iaith Sir Benfro yn cyflwyno Sŵnami, Y Bandana, Breichiau Hir, Ysgol Sul. 20:00, £7/£8

Sadwrn 27 Rhagfyr – Neuadd Ogwen, Bethesda: Parti Nadolig Nyth / Pesda Roc gyda Cowbois Rhos Botwnnog, Memory Clinic, Palenco, Delweddau Hen Dduwiau. 19:00, £7

Sul 28 Rhagfyr – Y Parrot, Caerfyrddin: Gig Cymdeithas yr Iaith / Achub y Parrot yn cyflwyno Bromas, Y Ffug Uumar a Castro. 19:30, £5