Yn ffresh o lwyddiant eu rhan allweddol yng nghynhyrchiad diweddaraf cwmni theatr ieuenctid yr Urdd, Cysgu’n Brysur, ar ddechrau’r mis, mae’n argoeli i fod yn bythefnos prysur ar ddiwedd mis Gorffennaf i Bromas hefyd.
Mae’r grŵp cyffrous o Sir Gâr wedi cyhoeddi eu taith haf gydag Y Cledrau. Bydd y gyfres o gigs yn dechrau yng Nghlwb Ifor Bach nos Iau yma (17 Gorffennaf) ac yn ymweld ag wyth o leoliadau gan orffen yn Y Bala ar nos Fercher 30 Gorffennaf.
Bydd Fleur de Lys a Tymbal yn ymddangos yn rhai o’r gigs hefyd.
Mae teithiau haf wedi dod yn bethau poblogaidd ymysg bandiau cyfoes Cymraeg, gyda thaith haf Y Bandana ac Y Ffug yn dirwyn i ben nos Sadwrn, a Sŵnami, Candelas ac Yr Eira yn cynllunio taith ddiwedd mis Awst.
Dyma fanylion y daith yn y trydar isod.
Dyma ni felly, TAITH HAF Bromas/@YCledrau Cychwyn NOS IAU YMA pic.twitter.com/bSImVFtosI
— Bromas (@BromasBand) July 13, 2014