Categori newydd Gwobrau’r Selar?

Wrth i’r cylchgrawn lansio manylion ein gwobrau blynyddol, mae Y Selar yn gofyn i ddarllenwyr awgrymu unrhyw gategoriau newydd ddylid eu gwobrwyo eleni.

Llynedd, cyflwynodd Y Selar gategori newydd ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ i Wobrau’r Selar ac rydan ni am wybod os oes yna gategori newydd arall yr hoffech chi weld yn cael ei ychwanegu eleni.

Mae Gwobrau’r Selar yn ceisio gwobrwyo y bobl sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i’r sin yn y flwyddyn a fu – boed hynny’n artist yn rhyddhau albwm sy’n haeddu teitl ‘Record Hir Orau 2014’ neu drefnydd gigs sy’n haeddu cael ei alw’n ‘Hyrwyddwr Gorau 2014’.

Ond oes ’na gategoriau sydd ddim yn cael eu gwobrwyo ar hyn o bryd y dylid eu hystyried? Oes ’na gyfraniad i’r sy’n sy’n haeddu clod?

Mae’r rhestr lawn y categoriau presenol isod, ac os ydach chi’n credu bod categori arall ddylai fod ar y rhestr yna rydan ni am glywed gennych ar Twitter @Y_Selar (defnyddiwch yr hashnod #gwobraurselar) neu ar e-bost gwobrau-selar@ou tlook.com gyda’ch awgrymiadau.

Bydd yr awgrym gorau yn cael ei ychwanegu i’r rhestr categoriau.

Rydym hefyd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer y categoriau isod ar hyn o bryd. Ebostiwch eich enwebiad at gwobrau-selar@outlook.com erbyn 1 Rhagfyr er mwyn i Banelwyr Gwobrau’r Selar eu hystyried ar gyfer y rhestrau hir eleni.

Categoriau presennol Gwobrau’r Selar

  • Record Fer Orau
  • Cân Orau (i’w rhyddhau / cyhoeddi ar unrhyw fformat)
  • Hyrwyddwr/wyr Gorau
  • Gwaith Celf Gorau
  • Cyflwynydd Gorau
  • Artist unigol Gorau
  • Band neu artist newydd Gorau
  • Digwyddiad Byw Gorau
  • Band y Flwyddyn
  • Record Hir Orau
  • Fideo cerddoriaeth gorau

Dyma rai awgrymiadau categoriau newydd sydd wedi eu cynnig eisoes:

  • Ffryntman / ferch gorau
  • C*c mwyaf y sin
  • Gwobr cyfraniad arbennig