Cau pôl piniwn 10 Albwm Selar 10

Mae pleidlais 10 Albwm Selar 10 bellach wedi cau – diolch yn fawr iawn i bawb a bleidleisiodd dros eu hoff 3 albwm o’r rhestr hir roeddem ni wedi llunio.

Roedd llunio rhestr hir o 25 o albyms gorau 10 mlynedd cyhoeddi Y Selar yn dipyn o her. I’r rhau ohonoch chi sydd wedi holi ynglŷn â’r broses o lunio’r rhestr hir, fe fuom ni’n pori trwy holl ôl-rifynnau’r cylchgrawn a llunio rhestr ar sail yr adolygiadau gorau a’r rhestrau ’10 uchaf’ blynyddol roeddem ni’n llunio. Fe wnaethom ni hefyd ystyried os oedd yr albyms yn gallu cael eu hystyried fel ‘clasuron’ wrth edrych yn ôl arnynt, neu’n torri tir newydd ar y pryd.

Doedd y broses ddim yn gwbl wyddonol felly, ond rydan ni’n credu bod y rhestr yn un teilwng, er bod pobl yn anochel o deimlo bod rhai albwms gwych yn eisiau o’r rhestr – roedd rhaid tynnu llinell yn rhywle.

Roeddem yn falch iawn gweld bod y pôl piniwn wedi denu llawer o ddiddordeb a bod bron i 600 o bobl wedi bwrw pleidlais erbyn y diwedd, er bod llawer wedi nodi pa mor anodd oedd dewis 3!

Bydd y 10 sy’n cyrraedd y brig yn cael eu cyhoeddi fel rhan o atodiad 10 mlynedd Y Selar, yn rhifyn nesaf y cylchgrawn sydd allan ar 31 Hydref yn gig Selar 10 Aberystwyth.