Cyflwynwyr ac ychwanegiadau i lein-yp Gwobrau

Heno mae’r Selar wedi cyhoeddi mai Dyl Mei a Gethin Evans fydd yn cyflwyno noson Wobrau’r Selar unwaith eto eleni.

Y ddau guru cerddorol o Borthmadog oedd yn llywio’r noson wobrau ym Mangor llynedd, a’r dybyl-act yn hynod boblogaidd.

Yn ogystal â hynny, rydan ni wedi cyhoeddi ychwanegiadau i arlwy’r noson gyda Gildas yn ymuno â’r artistiaid acwstig eraill, Casi Wyn a Kizzy Crawford, fydd yn agor y noson yn ‘Stiwdio’ Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Cyhoeddwyd hefyd y bydd y cerddor electroneg dawnus, Crash.Disco! yn DJio ar y noson yn y Neuadd Fawr.

Set DJ cyntaf artist dirgel

Newyddion diddorol arall yw y bydd y cynhyrchydd elecroneg cudd, Gramcon, yn gwneud ei set DJ cyntaf erioed ar y noson. Does neb yn gwybod pwy ydy Gramcon ond mae wedi bod yn rhyddhau cyfansoddiadau diddorol ynghyd ag ail-gymysgiadau gwych o ganeuon rhai o artistiaid eraill Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd Gramcon yn paratoi mics arbennig ar gyfer y noson fydd yn cynnwys cymysgedd o’i ganeuon ei hun, a’i sil-gymysgiadau o ganeuon adnabyddus eraill.

Gallwch ddarllen mwy am Gramcon ar dudalen 14 o rifyn mis Awst o’r Selar.

Mae manylion llawn y gig ar gael ar y digwyddiad Facebook a thocynnau ar gael i’w prynu ar-lein ar Sadwrn.com.

Dyma ail-gymysgiad Gramcon o ‘Gwreiddiau’ gan Sŵnami i roi blas i chi: