Cyhoeddi artistiaid noson Gwobrau’r Selar

Os ydach chi wedi bod yn cuddio dan garreg, neu mewn ogof heno, yna mae’n bosib eich bod chi wedi colli cyhoeddiad lein-yp Noson Wobrau’r Selar.

Rydan ni wedi cyhoeddi enwau’r artistiaid fydd yn perfformio yn y gig mawreddog yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth ar 15 Chwefror, ac mae’r ymateb wedi bod yn ffafriol i ddweud y lleiaf.

Bydd tri o fandiau mwyaf poblogaidd y sin yn arwain y gad – Yr Ods, Sŵnami a Candelas.

Hefyd yn perfformio bydd dwy o ganwyr-gyfansoddwyr mwyaf addasol y sin, a dwi sydd wedi cael blwyddyn rhagorol – Kizzy Crawford a Casi Wyn.

Mae enillwyr gwobr ‘Band neu Artist Gorau’ gwobrau’r Selar llynedd, Bromas, yn perfformio ar y noson, yn ogystal ag un o fandiau newydd gorau 2013, Yr Eira.

Y newyddion mawr arall ydy fod tocynnau’r noson yn mynd ar werth ar wefan Sadwrn.com bore fory (Gwener 10 Ionawr) am bris ‘cyntaf i’r felin’ o ddim ond £8.

Mae manylion llawn ar dudalen Facebook y digwyddiad.