Cyhoeddi ôl-rifynnau Y Selar

Fel rhan o ddathliadau Selar 10, rydym wedi dechrau ar y broses o gyhoeddi ôl-rifynnau cynharaf y cylchgrawn ar-lein.

Mae bellach modd i chi ddarllen y rhifyn cyntaf erioed, o Dachwedd 2004, gyda Sibrydon ar y clawr.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi’r ail rifyn, gyda Gruff Rhys ar y clawr a chyfweliad ynglŷn â’i albwm unigol cyntaf Yr Atal Genhedlaeth, rhwng y cloriau.

Byddwn yn cyhoeddi’r 10 rhifyn arall sydd ddym arlein yn barod dros y bythefnos nesaf. Mwynhewch y nostalgia!