Nid yn unif bydd Y Selar yn dathlu degawd o gyhoeddi yn gig Selar 10 Aberystwyth yn y Neuadd Fawr ar 31 Hydref, ond byddwn ni hefyd yn dathlu’r hen flwyddyn newydd Geltaidd mewn steil.
I nodi’r dathliad dwbl – pen-blwydd a blwyddyn newydd – rydan ni’n annog pobl sy’n dod i’r gig i ddod wedi eu gwisgo fel cymeriadau neu enwogion Cymreig, a bydd bag danteithion arbennig i’r 100 cyntaf sy’n gwneud hynny.
“Bydd awyrgylch parti i Selar 10 beth bynnag, ond gan ei bod yn nos Calan Gaeaf hefyd roedden ni’n teimlo bod cyfle i ychwanegu rhyw elfen wahanol i’r noson hefyd” meddai Golygydd Y Selar, Gwilym Dwyfor.
“Troad yr hen flwyddyn Geltaidd oedd Calan Gaeaf, ond bod yr Americanwyr wedi herwgipio’r traddodiad i greu Halloween. Mae’n hen bryd i ni fachu’r digwyddiad yn ôl fel Celtiaid, a byddwn ni’n cyfuno pen-blwydd Y Selar a’r hen flwyddyn newydd i greu clamp o barti da yn Aberystwyth.”
Bandiau a gemau
Mae’r Selar eisoes wedi cyhoeddi bod rhai o artistiaid gorau, a mwyaf addawol y sin yn perfformio ar y noson – Sŵnami, Yr Eira, Estrons, Ysgol Sul a Sgilti.
Bydd hefyd yn ddathliad i Yr Eira gan eu bod nhw’n rhyddhau eu EP cyntaf ar label I Ka Ching ar y noson. Bydd côd lawr lwytho ar gyfer un o draciau’r EP newydd yn un o’r eitemau sydd yn y bagiau parti.
Bydd y bagiau hefyd yn cynnwys detholiad o CDs gan labeli Peski a Sbrigyn-Ymborth yn ogystal a danteithion amrywiol gan Y Selar, C2 a rhai o ffrindiau eraill y cylchgrawn.
Yn nhraddodiad y dathliadau Calan Gaeaf Celtaidd traddodiadol, bydd nifer o gemau ar y noson hefyd gyda gwobrau cerddorol gwych i’r enillwyr ynghyd â gwobr i’r wisg orau.
Mae tocynnau Selar 10 ar werth ar wefan Canolfan y Celfyddydau nawr.