Dechrau cyhoeddi rhestrau byr gwobrau

Bydd Y Selar yn cyhoeddi rhestrau byr categoriau Gwobrau’r Selar eleni dros y 9 niwrnod nesaf, gan ddechrau gydag ‘Artist Unigol Gorau’ nos fory.

Fe gyhoeddwyd y rhestr fer gyntaf nos Fercher diwethaf yn fyw ar Radio, wrth i griw Y Selar gyflwyno rhaglen C2 Lisa Gwilym. Y dair cân sydd wedi cyrraedd rhestr fer categori ‘Cân Orau 2013’ ydy ‘Gwreiddiau’ gan Sŵnami, ‘Anifail’ gan Candelas a ‘Elin’ gan Yr Eira – llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd.

Byddwn yn cyhoeddi’r rhestrau byr ar ffrwd Twitter Y Selar (@Y_Selar), am 8:30 bob nos rhwng nos fory (Llun 3 Chwefror) a nos Fawrth 11 Chwefror.

Diolch i griw Ochr 1 byddwn ni hefyd yn cyhoeddi pecyn fideo ar gyfer pob rhestr fer – dyma’r cyntaf ar gyfer categori Cân Orau isod.