Mae trefnwyr Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi mai gŵyl undydd yn unig fydd yn cael ei chynnal ar 18 Hydref eleni, yn hytrach na gŵyl dros bedwar diwrnod yn ôl yr arfer.
Bydd yr ŵyl, sy’n cael ei galw’n ‘Dim Sŵn’, yn cael ei chyfyngu i gynulleidfa o 500 hefyd.
Sefydlwyd Gŵyl Sŵn gan y DJ Huw Stephens a’r hyrwyddwr John Rostron saith mlynedd yn ôl, gydag artistiaid lu’n perfformio mewn nifer o leoliadau ledled Caerdydd.
Mae’r ŵyl wedi mynd o nerth i nerth, a cipiodd yr ŵyl wobr yr ‘Ŵyl Fechan Orau’ yng ngwobrau NME yn gynharach eleni.
Bydd yr ŵyl yn parhau yn y dyfodol, a’r awgrym yw y bydd yn tyfu wedi i John Rostron ennill grant gan y Paul Hamlyn Foundation sy’n ei alluogi i weithio’n llawn amser ar y prosiect.
Mae enwau 40 o artistiaid Dim Sŵn wedi eu cyhoeddi, gyda mwy i ddilyn. Mae’r arlwy hyd yn hyn yn cynnwys yr artisitiad Cymraeg Candelas, Chris Jones, Delyth McClean, Kizzy Crawford, Plu a Sŵnami.