Newyddion hynod o gyffrous wedi cyrraedd tyrau Selar dros nos, sef mai 27 Hydref ydy dyddiad rhyddhau albwm hirddisgwyliedig Gwenno.
Y Dydd Olaf ydy enw’r albwm sy’n cael ei ddisgrifio fel albwm ‘wleidyddol gysyniadol’.
Mae’r record yn dwyn dylanwad o nofel ffuglen wyddonol Owain Owain o 1976, ac yn rhannu enw â’r gyfrol.
Mae Gwenno’n plethu llu o themau i’r record sy’n gyfan gwbl Gymraeg heblaw am un trac mae’n canu’n Gernyweg.
Bydd Y Dydd Olaf yn cael ei ryddhau gan label Peski, a hynny ar fformat digidol, CD nifer cyfyngedig a record feinyl 12 modfedd … mmm, lyfi!