Braf yw gallu croesawu prif ganwr Texas Radio Band yn ôl, wrth iddo ryddhau EP ei brosiect newydd Losin Pwdr yr wythnos hon.
Mae Matthew ‘Mini’ Williams bellach yn byw yng Ngwlad y Basg, ac fe recordiodd yr EP yn y stiwdio mae wedi creu yno yn ei gartref.
Mae’r EP allan ar label Peski, ac enw’r casgliad ydy Câr dy Henaint.
Dyma un o’r traciau, ‘Gwaith Motion’ i chi gael gwrando arno