Mae cyfweliad diddorol iawn Owain Nico Dafydd gyda ffryntman Y Ffug, Iolo Selyf James, wedi’i gyhoeddi ar wasanaeth Ffrwti bnawn ddoe.
Yn sicr mae’n werth i unrhyw un sy’n ffan o’r grŵp roc o Grymych ddarllen y sgwrs sy’n mynd o dan groen y canwr carismatig. Mae’r cyfweliad yn trafod ei gefndir teuluol a’i anniddigrwydd gyda chymreictod traddodiadol a bro ei febyd yn Sir Benfro.
Cofiwch hefyd bod Y Selar wedi bod yn siarad gyda Iolo ynglŷn â gwaith celf EP newydd Y Ffug yn y rhifyn diweddaraf.