Am y tro cyntaf eleni, rydan ni’n cyflwyno categori newydd i Wobrau’r Selar, sef ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’.
Gan fod hon yn wobr newydd (ac yn syniad lled ddiweddar os ydan ni’n onest), Panel Gwobrau’r Selar fydd yn penderfynu ar yr enillydd.
Er hynny, rydan ni am i chi roi help llaw i ni er mwyn gwneud yn siŵr fod pob fideo cymwys yn cael ystyriaeth.
Rydan ni wedi llunio rhestr o fideos sydd wedi ei cynhyrchu / rhyddhau yn 2013 – mae rhai o’r rhain ar YouTube, ac eraill wedi eu darlledu ar raglen Ochr 1 ar S4C.
Mae’r rhestr gyfredol isod, ond os ydach chi wedi dod ar draws rhywbeth ddylai fod ar y rhestr yma yna plîs plîs rhowch wybod i ni trwy ebostio yselar@live.co.uk neu yrru neges uniongyrchol (DM) i ni ar gyfrif Twitter Y Selar – @Y_Selar.
Bydd enillydd y categori newydd yn cael ei gyhoeddi ar noson Wobrau’r Selar yn Aberystwyth ar nos Sadwrn 15 Chwefror.
Fideos Cerddorol 2013
Moel Famau – Dau Cefn (Y Lle)
Diwrnod y Brain – Odlgymix a Sion Richards (Odlgymix)
Dau Cefn – Mynd Trwy dy Bethau (Lindsay Macpherson – annibynnol)
E. L. Heath – Yr Sioe Afanc (Arron Fowler – annibynnol)
Hud – Stuntman (Hud – annibynnol)
Casi Wyn – Fan Hyn (Gwion Morris Jones – annibynnol)
Gildas – Y Gŵr o Gwm Penmachno (Rebecca Harpwood – Heno)
Yr Ods – Pob Gair yn Bos (On Par – annibynnol)
Geraint Rhys – Ble Mae’r Haul (Simon Bartlett – annibynnol)
Gai Toms – Cefn Trwsgl (Gai Toms – annibynnol)
Trwbador – Yn y Llwch (Eilir Pierce – Ochr 1)
Y Bandana – Geiban (Sion Llwyd – Ochr 1)
Ifan Dafydd – Llonydd (Osian Williams – Ochr 1)
Violas – Penseiri (On-Par – Ochr 1)
Kizzy Crawford – Caer o Feddyliau (Ross Coughlan – Ochr 1)
Plyci – Ebol Ebol (Turrel Bros – Ochr 1)
Gramcon – Rhedwch (Ryan Owen Eddleston – Ochr 1)
Sŵnami – Gwreiddiau (Osian Williams – Ochr 1)
Yr Ods – Addewidion (Osian Williams – Ochr 1)
Plu – Glaw Du (On-Par – Ochr 1)
Os oes ’na unrhyw fanylion anghywir uchod yna plîs cysylltwch.