Candelas, Castro ac Y Gwyryf i chwarae yn y cyntaf o gyfres o gigs yn Aberystwyth
Mae cyfres gigs O’r Selar yn Aberystwyth yn dechrau ym Mar Canolfan y Celfyddydau nos Wener yma, 26 Medi.
Enillwyr mawr Gwobrau’r Selar nôl ym mis Chwefror, Candelas, fydd y prif atyniad nos Wener – cipiodd y grŵp o Lanuwchllyn deitlau ‘Cân Orau’, ‘Record Hir Orau’ a ‘Band Gorau’ y gwobrau.
Hefyd yn perfformio mae’r grŵp ifanc gwych o Landeilo, Castro, a ryddhaodd eu EP cyntaf ar label Fflach yn gynharach eleni.
Yn agor y noson fydd y grŵp o fyfyrwyr Aber, y Gwyryf, a bydd DJ preswyl gigs O’r Selar, Sgilti, yn swyno gyda mixes gwych rhwng y bandiau.
A hithau’n Wythnos y Glas yn Aberystwyth, mae disgwyn cynulleidfa dda i’r gig felly mae’n werth prynu tocyn ymlaen llaw o wefan Canolfan y Celfyddydau neu o Swyddfa UMCA i fod yn saff.
Bydd ail gig O’r Selar yn cael ei gynnal ar nos Wener 31 Hydref, a’r gig canynol ar nos Iau 27 Tachwedd – rhowch y dyddiadau yn eich dyddiaduron reit handi!
Yn y cyfamser, dyma mix hyrwyddo arbennig ar gyfer y noson gan Sgilti: