Mae Y Ffug wedi lansio gwefan newydd, yn ogystal â chyhoeddi manylion clwstwr o gigs y grŵp dros yr haf.
Ymddangosodd gwefan newydd enillwyr Brwydr y Bandiau C2 2013 yr wythnos diwethaf, a neithiwr roedd y grŵp yn brysur yn trydar manylion nifer o gigs y byddan nhw’n gwneud dros yr wythnosau nesaf.
Mae’r cyfnod prysur o gigio i’r grŵp o Grymych yn dechrau yng Ngŵyl Nyth yn Porter’s, Caerdydd ddydd Sul yma cyn iddyn nhw ymweld ag Aberystwyth nos Fawrth ac wrth gwrs gig Slot Selar ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Y Bala ddydd Mercher.
Yn ogystal â’r dyddiadau isod, mae Y Ffug wedi addo bod mwy o gigs i’w cyhoeddi wrth iddyn nhw baratoi haf prysur yn hyrwyddo eu EP Cofiwch Dryweryn.
I’r rhai ohonoch chi sydd wedi sylwi ar waith celf trawiadol yr EP newydd, dyma fydd testun eitem ‘O Glawr i Glawr’ rhifyn diweddaraf Y Selar sydd allan ddydd Llun (26 Mai).
Gigs Y Ffug
25 Mai – Gŵyl Nyth, Porter’s, Caerdydd – gyda Colorama, Llwybr Llaethog, Kizzy Crawford, Yr Ayes, Y Pencadlys + mwy
27 Mai – Llew Du, Aberystwyth (Wythnos Nefi Blw Cell Cymdeithas yr Iaith Pantycelyn) – gyda Blaidd, Y Gwyryf, Sion Richards, Odlygymix
28 Mai – Slot Selar, Llwyfan Perfformio Eisteddfod yr Urdd, Y Bala (1pm)
6 Mehefin – Clwb Canol Dre, Caernarfon – gyda Castro, Mellt
5 Gorffennaf – Llangwm (dim llawer o fanylion eto!)
17 Gorffennaf – Clwb Ifor Bach, Caerdydd – gyda Bromas, Y Cledrau
5 Awst – Clwb Rygbi Ffwrnes (Gig Steddfod Cymdeithas yr Iaith) – gyda Candelas
7 Awst – Maes B, Steddfod Llanelli