Gwell hwyr na hwyrach medden nhw, pwy bynnag ydyn nhw ynde!
Yn sicr roedd yr hen ddywediad hwnnw’n addas nos Wener wrth i Georgia Ruth Williams dderbyn ei gwobr ‘Artist Unigol Gorau’ cyn ei gig yn y Drwm yn Aberystwyth.
Yn anffodus doedd dim modd i Georgia fod yn bresennol yn noson fythgofiadwy Gwobrau’r Selar ar 15 Chwefror, ond fe addawodd Dyl Mei o’r llwyfan y byddai’n sicrhau ei bod yn derbyn y tlws yn ddiogel. Chwarae teg i Dyl, fe wnaeth bopeth yn ei allu i gadw at ei air … wel, i ddeud y gwir roedd o wedi anghofio lle adawodd o’r tlws, ond dim ots am hynny.
Derbyniodd Georgia ei gwobr o’r diwedd cyn ei gig yn y Llyfrgell Genedlaethol nos Wener, ac roedd yn edrych yn ddigon balch i gael ei gafael arno hefyd! Roedd yn reit addas fod Georgia’n derbyn y wobr yn Aberystwyth, a hithau’n dod o’r dref yn wreiddiol.
Cafwyd perfformiad gwych gan Georgia, ac Iwan Cowbois, yn y Drwm wedi i’r tocynnau werthu allan ymlaen llaw. Roedd tipyn o ecsgliwsig i’r gynulleidfa werthfawrogol hefyd wrth i’r delynores chwarae gitar yn fyw am y tro cyntaf erioed!
Mae mwy o luniau o’r noson yma.