Y grŵp roc o Lanuwchllyn, Candelas, oedd prif enillwyr Gwobrau’r Selar mewn noson orlawn yn Aberystwyth neithiwr.
Cipiodd y Candelas dair o wobrau’r cylchgrawn cerddoriaeth mewn gig llawn dop yng Nganolfan y Celfyddydau.
Nhw ddaeth ar frig y bleidlais gyhoeddus yng nghategorïau ‘Cân Orau’, ‘Record Hir Orau’ a ‘Band Gorau’.
Cafodd Sŵnami noson dda hefyd yn ennill gwobr y ‘Record Fer Orau’, ac eu fideo i’r gân Gwreiddiau, a gyfarwyddwyd gan Osian Williams gipiodd y wobr yn y categori newydd sbon ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’.
Gwerthu allan
Roedd tocynnau’r noson wobrau, a gynhaliwyd am yr ail flwyddyn eleni, wedi gwerthu allan ers nos Iau a 500 o bobl yn Neuadd Fawr Aberystwyth i ddathlu llwyddiannau’r flwyddyn gerddorol a fu.
Roedd hi’n noson dda i ferched y sin hefyd, gyda Georgia Ruth Williams yn cipio teitl ‘Artist Unigol Gorau’ o restr fer o dair merch.
Y gantores o Ferthyr Tudful, Kizzy Crawford, aeth â hi yn un o gategorïau mwyaf cystadleuol y gwobrau elen sef ‘Band neu Artist Unigol Gorau’.
Dyma restr o enillwyr lawn Gwobrau’r Selar 2013:
Record Hir Orau: Candelas
Record Fer Orau: Du a Gwyn – Sŵnami
Cân Orau: Anifail – Candelas
Hyrwyddwr Gorau: Nyth
Gwaith Celf Gorau: Llithro – Yr Ods
Cyflwynydd Gorau: Lisa Gwilym
Artist Unigol Gorau: Georgia Ruth Williams
Band neu Artist Newydd Gorau: Kizzy Crawford
Digwyddiad Byw Gorau: Gig Olaf Edward H Dafis, Steddfod Dinbych
Band Gorau: Candelas
Fideo Cerddoriaeth Gorau: Gwreiddiau – Sŵnami (Cyfarwyddwr – Osian Williams)