Y grŵp ifanc cyffrous o Gaerdydd, Joanna Gruesome, gipiodd deitl ‘Gwobr Gerddoriaeth Gymreig’ eleni mewn seremoni yng Nghaerdydd nos Wener.
Eu record hir cyntaf nhw, Weird Sister’, ddaeth i’r brig mewn rhestr oedd yn cynnwys enwau mawr fel y Manic Streer Preachers, Gruff Rhys, Future of the Left ac Euros Childs.
Roedd dau albwm cwbl Gymraeg ar y rhestr hir o 12 eleni hefyd, sef Tincian gan 9 Bach ac Y Bardd Anfarwol gan The Gentle Good.
Ymysg y panel beirniaid fu’n dewis yr enillydd eleni oedd Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone.
Mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn cael ei chynnal gan drefnwyr Gŵyl Sŵn, y Cyflwynydd Huw Stephens, a’r hyrwyddwr John Rostron.
Mae’r wobr bellach yn ei phedwaredd flwyddyn a’r enillwyr blaenorol ydy Week of Pines gan Georgia Ruth Williams (2013), The Plot Against Common Sense gan Future of the Left (2012) a Hotel Shampoo gan Gruff Rhys (2011).
Yn ôl Owain mae albwm Joanna Groesome yn un ardderchog o ystyried mae dyma ydy record gyntaf y grŵp – dyma drac bach i roi blas i chi.