Lansiad albwm Candelas nos Fercher

Wrth i ni lansio pleidlais Gwobrau’r Selar eleni, mae enillwyr categoriau ‘Band Gorau’, ‘Cân Orau’ a ‘Record Hir Orau’ y gwobrau diwethaf yn paratoi i ryddhau eu hail albwm nos Fercher yma.

Bydd Candelas yn rhyddhau Bodoli’n Ddistaw mewn gig yn Neuadd Buddug, Y Bala, nos Fercher 17 Rhagfyr.

Mae’r grŵp wedi penderfynu cynnal y lansiad ar stepen eu drws i gydnabod y gefnogaeth maent wedi’i cael yn ardal Y Bala ers ffurfio yn Ysgol y Berwyn rai blynyddoedd yn ôl.

Mae’n addo bod yn glamp o gig, ac mae C2 Radio Cymru yn darlledu’n fyw o’r noson

Bydd y grŵp o Landeilo, Ysgol Sul, yn cynnig cefnogaeth ar y noson.

Mae tocynnau’r gig ar gael o siop Awen Meirion yn Y Bala, neu ar-lein am £4 … neu mae modd prynu pecyn arbennig sy’n cynnwys copi o’r albwm newydd a thocyn i’r gig am ddim ond £12, hyfryd!