Fis Medi bydd Y Selar yn lansio cyfres o gigs rheolaidd yn Aberystwyth.
Bydd gigs O’r Selar… yn cael ei lansio ym mar Canolfan y Celfyddydau ar nos Wener 26 Medi, gyda noson o roc budr yng nghwmni Candelas, Castro ac Y Gwyryf.
Bydd gigs eraill yn dilyn ar 31 Hydref a 27 Tachwedd, a’r bwriad ydy cynnal y gigs yn fisol.
Mae’r prosiect yn un cyffrous hefyd gan fod Y Selar yn cynnig cynllun mentora i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn hyrwyddo gigs. Byddwn yn cydweithio gyda Chymdeithas yr Iaith Cymraeg ac UMCA i wneud hynny.
Bydd mwy o wybodaeth am y gig cyntaf ar y digwyddiad Facebook, a bydd manylion y gigs eraill, gan gynnwys gig arbennig dathlu 10 mlynedd o’r Selar, yn dilyn yn fuan.