Lansio gigs rheolaidd Y Selar yn Aberystwyth

Ddiwedd Medi bydd Y Selar, yn lansio cyfres o gigs newydd fydd yn dod a’r artistiaid Cymraeg cyfoes gorau i Aberystwyth

Yn dilyn llwyddiant noson wobrau’r cylchgrawn a werthodd allan ymlaen llaw yn y Neuadd Fawr fis Chwefror, mae’r Selar yn cydweithio â Chanolfan y Celfyddydau i hyrwyddo cyfres o gigs rheolaidd yn y ganolfan dros yr hydref.

Bydd y digwyddiadau hefyd yn cynnig cyfle i bobl ifanc o’r ardal sydd am ddysgu sut i hyrwyddo gigs wneud hynny trwy gynllun mentora hyrwyddwyr newydd Y Selar.

Mae’r gigs ‘O’r Selar’ yn cael eu lansio mewn steil ar 26 Medi gyda thri o fandiau roc gwych yn perfformio – prif enillwyr Gwobrau’r Selar fis Chwefror, Candelas; y grŵp ifanc cyffrous i Landeilo, Castro; a’r grŵp o fyfyrwyr Aber sy’n creu argraff, Y Gwyryf.

“Rydan ni’n gyffrous iawn ynglŷn â’r cynllun yma, a bydd y digwyddiad ym mis Medi’n sicr yn un gwych i ddechrau pethau” meddai Cyfarwyddwr Y Selar, a’r hyrwyddwr Owain Schiavone.

“Ar ôl llwyddiant arbennig ein noson wobrau yn Aber nôl ym mis Chwefror, mae’n amlwg bod galw am gerddoriaeth Gymraeg byw yn y dref, ac mae Canolfan y Celfyddydau’n awyddus iawn i gynnig llwyfan ar gyfer y sin yma.”

“Mae hefyd yn gyfle da i sefydlu’r cynllun mentora hyrwyddwyr, ac mae ‘na griw o bobl ifanc arbennig o frwdfrydig gyda syniadau gwych yn rhan o hwnnw. Rydan ni’n credu y gallwn ni lwyfannu digwyddiadau cerddorol cyffrous iawn, sef rhywbeth sydd wir ei angen yn Aberystwyth.”

Mae tocynnau’r gig ar 26 Medi bellach ar gael i’w prynu o swyddfa docynnau Canolfan y Celfyddydau, ac mae digwyddiad Facebook y gig yma.