Mae’r Selar wedi cyhoeddi manylion llawn y gyfres o gigs ‘Selar 10’ fydd yn nodi achlysur pen-blwydd y cylchgrawn yn ddeg oed.
Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaethom ni gyhoeddi nifer o bethau sy’n digwydd i nodi’r degawd, gan gynnwys rhifyn estynedig, clwb senglau a’r gyfres o gigs Selar 10.
Felly, dyma fanylion y gigs:
Aberystwyth: Nos Wener 31 Hydref (nos Calan Gaeaf) – Sŵnami, Yr Eira, Estrons, Ysgol Sul, Sgilti (Canolfan y Celfyddydau)
Bangor: Nos Wener 7 Tachwedd – Sŵnami, Yr Eira, Chwalfa (Rascals, Bangor Ucha)
Caerdydd: Nos Sadwrn 8 Tachwedd – Sŵnami, Yr Eira, Chwalfa (Clwb Ifor Bach)
Bydd y rhai craff ohonoch chi’n sylw bod Sŵnami ac Yr Eira’n perfformio ar bob un o ddyddiadau’r daith fer, ac mae’n gyfres yn daith lansio ar gyfer EP newydd Yr Eira sydd allan ar label I Ka Ching erbyn diwedd mis Hydref.
Mae’n werth nodi bod y noson gyntaf yn mynd i fod yn barti go iawn, gyda thema gwis ffansi ‘enwogion Cymreig’ – bydd pawb sy’n gwisgo fel person enwog Cymreig yn cael bag parti Selar 10 yn llawn danteithion hyfryd.
Os ydach chi’n trafod y gigs a’r pen-blwydd ar Twitter yna cofiwch ddefnyddio’r hashnod #selar10