Os ydach chi’n ffans o waith label Peski, yna dyma newyddion fydd yn achosi cyffro heb ei debyg!
Byddwch yn ymwybodol fod criw’r label wedi bod yn gyfrifol am raglen radio ‘Cam o’r Tywyllwch’ ar Radio Cardiff a Resonance FM yn Llundain ers dros flwyddyn bellach, a’r rhaglen yn dathlu’r gerddoriaeth arbrofol, amgen, electroneg ac avant-garde ddiweddaraf o Gymru.
Wel, mae Peski wedi penderfynu rhyddhau albwm aml-gyfrannog sy’n gasgliad o rai o’r traciau sydd wedi eu chwarae ar y sioe dros y flwyddyn gynta’. Yn ôl y label, CAM 1 fydd y record gyntaf mewn cyfres flynddol, a bydd yn cael ei ryddhau ar record feinyl ddydd Llyn, 2 Mehefin. Bydd hefyd modd lawr lwytho’r casgliad.
Cynhaliwyd lansiad arbennig i’r albwm yn Arcade Cardiff nos Fercher diwethaf (28 Mai), lle roedd gwaith y grŵp celf, Genetic Moo, yn cael ei arddangos wrth i’r albwm gael ei chwarae ar lŵp.
Am fwy o wybodaeth, neu brynu’r albwm, ewch draw i wefan Peski.