Mae’r Selar wedi cyhoeddi rhestr fer ail gategori Gwobrau’r Selar eleni, sef Artist Unigol Gorau.
A’r merched sydd wedi rheoli’r categori yma eleni, gyda Kizzy Crawford, Casi Wyn a Georgia Ruth Williams yn dod i frig y bleidlais gyhoeddus.
Mae’r dair wedi cael blwyddyn i’w chofio gyda Kizzy a Casi yn rhyddhau eu EPs cyntaf, Temporary Zone ac 1, tra bod Georgia wedi cipio’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yng Ngŵyl Sŵn.
Bydd enillydd y wobr yn cael ei gyhoeddi yn Noson Wobrau’r Selar yn Aberystwyth ar 15 Chwefror – tocynnau ar werth rŵan am ddim ond £8 ar Sadwrn.com.