Mae’r Selar yn falch iawn o gyhoeddi rhestr fer categori ‘Cyflwydd Gorau’ 2013.
Mae Huw Stephens a Lisa Gwilym unwaith eto wedi cyrraedd y brig, ond yr enw newydd ar y rhestr eleni ydy Tudur Owen.
Neithiwr cyhoeddwyr rhestr fer categori ‘Record Fer Orau’ 2013, gydag EP Sŵnami, ‘Du a Gwyn’; EP ‘1’ gan Casi Wyn; ac EP ‘Sudd Sudd Sudd’ gan Sen Segur yn cyrraedd y rhestr o dri.
Bydd enillwyr yr holl gategoriau’n cael eu cyhoeddi yn noson Wobrau’r Selar yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar nos Sadwrn 15 Chwefror.
Mae tocynnau’r noson ar werth rŵan o siopau Inc ac Andys Records yn Aberystwyth, siopau Palas Print Bangor a Chaernarfon ac o Sadwrn.com. Mae’r pris yn £8 nes nos Sul 9 Chwefror, ond yn codi i £10 ar ôl hynny.