Fe gyhoeddwyd rhestr fer categori olaf Gwobrau’r Selar yn fyw ar raglen Ifan Evans ar C2 heno (nos Fawrth).
Categori ‘Band Gorau’ ydy’r un mae’r grwpiau i gyd yn awchu i gipio, a’r tri sydd â gobaith o fynd â’r wobr adref efo nhw eleni ydy Sŵnami, Candelas ac enillwyr y ddwy flynedd ddiwethaf, Y Bandana.
Mae hyn yn golygu bod rhestrau byr llawn y Gwobrau’n gyhoeddus bellach, a dyma nhw isod i chi. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y noson wobrau yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth nos Sadwrn yma, 15 Chwefror.
Gwobrau’r Selar 2013 – Rhestrau Byr
Record Hir Orau: Llithro – Yr Ods; Candelas; Bywyd Gwyn – Y Bandana
Record Fer Orau: 1 – Casi Wyn; Sudd Sudd Sudd – Sen Segur; Du a Gwyn – Sŵnami
Cân Orau: Anifail – Candelas; Gwreiddiau – Sŵnami; Elin – Yr Eira
Hyrwyddwr Gorau: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg; Nyth; Pedwar a Chwech
Gwaith Celf Gorau: Llithro – Yr Ods; Du a Gwyn – Sŵnami; Un Tro – Siddi
Cyflwynydd Gorau: Huw Stephens; Lisa Gwilym: Tudur Owen
Artist Unigol Gorau: Casi Wyn; Kizzy Crawford; Georgia Ruth Williams
Band neu Artist Newydd Gorau: Yr Eira; Kizzy Crawford; Y Cledrau
Digwyddiad Byw Gorau: Gig Olaf Edward H Dafis, Steddfod Dinbych; Maes B, Steddfod Dinbych; Taith Candelas, Hud a Sŵnami
Band Gorau: Y Bandana; Sŵnami; Candelas