Mae’r grŵp o Sir Gaerfyrddin, Bromas, wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau eu hail albwm, Codi’r Fore, ddydd Llun nesaf, 8 Rhagfyr.
Bromas oedd enillwyr teitl ‘Grŵp neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar 2012 ac fe ryddhawyd eu halbwm cyntaf, Byr Dymor, llynedd. Fe gafodd hwnnw ei bleidleisio’n bedwerydd albwm gorau’r flwyddyn yn rhestr 10 Uchaf Y Selar yng Ngwobrau’r Selar 2013.
Mae chwaraewr allweddellau’r grŵp, Llewelyn Hopwood, wedi bod yn siarad â gohebydd Golwg360, ac mae cyfle i chi wrando ar un o’r traciau ‘Gofyn a Joia’ yn yr erthygl.