Rhyddhau cynnyrch Estrons a’r Eira

Mae’n ddiwrnod mawr o ran rhyddhau cynnyrch newydd heddiw gyda dau o fandiau taith Selar 10 yn rhyddhau cynnyrch newydd i’r farchnad.

Yn dilyn gig lansio swyddogol yn gig Selar 10 Aberystwyth nos Wener, mae sengl gyntaf Clwb Senglau newydd Y Selar allan i’w phrynu’n ddigidol heddiw.

Mae ‘C-C-CARIAD’ gan Estrons bellach ar werth ar iTunes, ac mae’n glamp o drac gan y grŵp gwych o Gaerdydd.

Bydd modd i chi weld Estrons yn perfformio’n fyw yn gig olaf cyfres gigs Selar 10 yng Nghlwb Ifor Bach Caerdydd nos Sadwrn yma, 8 Tachwedd.

Colli Cwsg

Yn ogystal â dathlu pen-blwydd Y Selar, mae taith Selar 10 yn dyblu fel taith lansio EP newydd Yr Eira, Colli Cwsg, sydd hefyd allan ar label I Ka Ching heddiw.

Yr Eira sydd ar glawr rhifyn newydd Y Selar, sydd allan rŵan, ac fe fyddan nhw’n edrych ymlaen at berfformio i’w ‘cynulleidfa gartref’ yn y gig Selar 10 yn Rascals, Bangor nos Wener yma – 7 Tachwedd. Mae’r grŵp lleol arall, Chwalfa yn cefnogi Yr Eira yn Rascals, a Sŵnami hefyd yn perfformio.

Bydd Yr Eira a Sŵnami yn teithio i Gaerdydd y diwrnod canlynol ar gyfer gig olaf Selar 10 yng Nghlwb Ifor Bach.

Dyma sampyl bach o un o ganeuon EP newydd Yr Eira: