Mae EP cyntaf y ddeuawd electroneg difyr, Carcharorion, allan ar label Peski heddiw (8/12/14).
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Carcharorion wedi creu cryn argraff gyda’u sampyls a synau electro rhyfedd a hyfryd.
Rhyddhawyd eu cynnyrch cyntaf yn ffurfiol gan Peski ar ffurf y trac ‘Beth yw’r Haf’ ar record aml-gyfrannog Cam 1 yn gynharach eleni.
Bydd y newyddion bod yr EP newydd, Hiraeth, yn cael ei ryddhau cyn y Nadolig yn fêl ar fysedd eu ffans niferus.
Mae’r EP yn cynnwys 5 trac, ac yn eu mysg mae samplau o Siân James, Plu, Meredydd Evans, Cayo Evans a Gerallt Lloyd Owen, a fu farw’n gynharach eleni.
Dyma i chi flas o’r EP trwy gwrteisi ein ffrindiau yn Peski: